Mae lefel diogelwch Prydain wedi cael ei chodi i ‘argyfyngus’ – y lefel uchaf – yn dilyn yr ymosodiad brawychol ym Manceinion nos Lun.

Dydi’r awdurdodau, felly, ddim yn sicr a oedd yr hunanfomiwr Salman Abedi yn gweithredu ar ei ben ei hun wrth ffrwydro dyfais yn Arena Manceinion ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande.

Ac mae’n awgrymu y gallai ymosodiad brawychol arall ddigwydd yn y dyfodol agos.

Mae hefyd yn golygu y gallai’r fyddin gynorthwyo’r heddlu i gadw gwledydd Prydain yn ddiogel.

Bu farw 22 o bobol yn yr ymosodiad nos Lun, a chafodd dwsinau o bobol eu hanafu.

Yr hyn yr ydyn ni’n ei wybod

Hwn oedd yr ymosodiad brawychol gwaethaf yng ngwledydd Prydain ers i 52 o bobol gael eu lladd ar Orffennaf 7, 2005.

Mae’r heddlu wedi arestio dyn 23 oed o ardal Chorlton, Manceinion mewn perthynas â’r ymosodiad.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi dweud bod ysbryd gwledydd Prydain yn fwy o lawer na “phlot ffiaidd brawychwyr llygredig”.

Ymhlith y rhai fu farw yn yr ymosodiad roedd y ferch wyth oed Saffie Roussos, Oliva Campbell (15) a Georgina Callander (18).

Mae nifer o’r 59 o bobol a gafodd eu hanafu wedi derbyn triniaeth am anafiadau sy’n peryglu eu bywydau, ac roedd 12 o’r bobol a gafodd eu cludo i’r ysbyty yn blant.

Mae Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – wedi hawlio cyfrifioldeb am yr ymosodiad a gafodd ei achosi gan fom cartref oedd wedi ffrwydro yng nghoridor Arena Manceinion wrth i filoedd o bobol adael cyngerdd Ariana Grande.

Salman Abedi

Mae’r heddlu’n cyfaddef fod bylchau yn yr hyn maen nhw’n ei wybod am yr unigolyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Ond maen nhw wedi enwi Salman Abedi, 22 o Fanceinion, fel yr un sydd dan amheuaeth.

Mae lle i gredu iddo gael ei eni ym Manceinion, a bod ei rieni’n ffoaduriaid o Libya.

Roedd yn astudio Busnes ym Mhrifysgol Salford, ond fe adawodd ei gwrdd cyn cwblhau ei radd.

Mae lle i gredu ei fod yn aelod o Ganolfan Islamaidd Manceinion, neu fosg Didsbury, ynghyd â’i deulu.

Roedd yn adnabyddus yn y gymuned Libyaidd ym Manceinion.

Cafodd ffrwydrad ei gwblhau gan yr heddlu mewn eiddo lle roedd Salman Abedi yn byw, yn ôl adroddiadau.

Ar ôl agor Ymchwiliad Temperer – sy’n rhoi’r hawl i’r fyddin weithio ar y strydoedd – bydd Theresa May yn cadeirio cyfarfod Cobra am 9.30 y bore ma.

Pobol ar goll o hyd

Yn dilyn yr ymosodiad, mae nifer o unigolion ar goll o hyd, gan gynnwys y cwpl Chloe Rutherford (17) a Liam Curry (19) o ogledd-ddwyrain Lloegr, Eilidh MacLeod o Barra yn yr Alban, Martyn Hett a Wendy Fawell.

Mae lle i gredu eu bod nhw i gyd wedi bod yn y gyngerdd, ond does dim sôn amdanyn nhw ers hynny.

Mae Kelly Brewster o Sheffield a John Atkinson o Bury ymhlith y rhai y mae lle i gredu eu bod nhw wedi marw.