Mae merch wyth oed ymhlith y 22 gafodd eu lladd mewn ymosodiad ym Manceinion neithiwr.

Mae Saffie Roussos wedi’i disgrifio yn “ferch fach brydferth,” a daeth datganiad o gydymdeimlad gan Ysgol Gynradd Gymunedol Tarleton drwy law Cyngor Sir Gaerhirfryn.

Dywedodd y prifathro, Chris Upton – “Mae’r newyddion am farwolaeth Saffie yn yr ymosodiad arswydus hwn wedi dod fel sioc aruthrol inni gyd a hoffwn anfon ein cydymdeimladau dwysaf i’r holl deuluoedd a ffrindiau.

“Mae meddwl y gallai unrhyw un fynd allan i gyngerdd a ddim dod yn ôl yn dorcalonnus,” meddai.

Mae Georgina Callander hefyd wedi’i henwi fel un o’r rhai gafodd ei lladd, ac roedd yn astudio iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Runshaw yn Leyland, Swydd Gaerhirfryn.

Pobol yn parhau ar goll

Mae cannoedd o bobol yn parhau i geisio dod o hyd i’w hanwyliaid a ffrindiau wedi’r ymosodiad ym Manceinion nos Lun.

Mae llawer wedi cymryd at y cyfryngau cymdeithasol i geisio dod o hyd i aelodau’r teulu, ac mae Facebook wedi lansio gwiriad diogelwch.

Roedd y gyngerdd neithiwr wedi denu miloedd o blant a phobol ifanc, ac mae teuluoedd dau yn eu harddegau hwyr yn dal i geisio dod o hyd iddyn nhw.

Yn ogystal, mae dynes o Fanceinion yn parhau i geisio dod o hyd i’w merch 15 oed gan ddweud ei bod wedi ffonio’r ysbytai, heddlu a’r canolfannau oedd yn cynnig lloches wedi’r ymosodiad.

Dros nos fe wnaeth gwestai cyfagos, gan gynnwys Holiday Inn a Premier Inn gynorthwyo drwy gynnig lloches, ac mae llinell gymorth wedi’i sefydlu ar gyfer pobol wedi’u heffeithio, sef 0161 856 9400.

Erbyn hyn, mae Heddlu Manceinion wedi cadarnhau fod dyn 23 oed wedi’i arestio yn ne’r ddinas mewn cysylltiad â’r ymosodiad, ac mae’r ymchwiliadau’n parhau.