Hugh Grant (Llun: PA)
Mae’r actor Hugh Grant wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain, Theresa May a’r Ceidwadwyr o “frad eithriadol”, gan ddweud eu bod nhw wedi cefnu ar addewid i reoleiddio’r wasg.

Mae’r actor, sy’n fwyaf adnabyddus am ei ran yn ffilmiau Notting Hill a Four Weddings and a Funeral, yn gefnogwr brwd o’r ymgyrch Hacked Off, sy’n ymgyrchu yn erbyn ymyrraeth y wasg ym mywydau preifat unigolion.

Dywedodd ei fod yn teimlo’n “anghredadwy o grac” ar ran y teuluoedd a ddywedodd wrth ymchwiliad Leveson fod y cyfryngau wedi eu trin nhw’n amharchus.

Roedd ail ran ymchwiliad Leveson i fod i ganolbwyntio ar ddiwylliant, arferion a moesau’r wasg ond ni fydd yr ail ran yn mynd yn ei blaen pe bai’r Ceidwadwyr mewn grym ar ôl Mehefin 8.

‘Taflu’r cyfan i ffwrdd’

Dywedodd Hugh Grant wrth raglen Peston on Sunday ar ITV: “Dw i’n teimlo’n anghredadwy o grac dros y bobol hyn dw i wedi bod yn gweithio gyda nhw dros y chwe blynedd diwethaf ac sydd wedi ail-fyw eu dioddefaint.

“Cawson nhw addewidion personol gan y Prif Weinidog Torïaidd diwethaf – yn y Senedd a wyneb-yn-wyneb, y byddai Leveson yn cael ei gwblhau hyd y diwedd, y bydden nhw’n cael eu gwarchod beth bynnag am y canlyniad, mai nhw yw’r rhai pwysig.

“Nawr, mae’r prif weinidog yma – er mwyn elwa’n wleidyddol yn y tymor byr… i gael penawdau da iddi hi ei hun, i sicrhau ei bod hi’n cael ei hethol – yn taflu’r cyfan i ffwrdd.

“Mae’n weithred o frad eithriadol.”

Hacio ffonau

Arweiniodd honiadau o hacio ffonau gan bapur newydd y News of the World at ymchwiliad Leveson, ac fe gyhoeddodd y Prif Weinidog ar y pryd, David Cameron y byddai’n cael ei gynnal mewn dwy ran.

Roedd disgwyl i’r ail ran ganolbwyntio ar dorri’r gyfraith a chamymddwyn o fewn sefydliadau’r cyfryngau, yr ymchwiliad gwreiddiol gan yr heddlu i hacio ffonau a chamymddwyn posib gan yr heddlu.

Ond penderfynodd Llywodraeth Prydain oedi cyn gwneud penderfyniad am yr ail ran ac fe awgrymodd Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant na fyddai’r ail ran yn mynd yn ei blaen.

‘Dim lles’

Dywedodd Hugh Grant nad yw brwydro yn erbyn Llywodraeth Prydain wedi “gwneud lles” iddo dros y chwe blynedd diwethaf.

Dywedodd nad oedd Ipso – Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg – wedi gwneud unrhyw waith rheoleiddio o gwbl ers cael ei sefydlu yn sgil ymchwiliad Leveson.

Ond fe ddaeth arolwg annibynnol i’r casgliad y llynedd fod Ipso yn gwneud gwaith effeithiol a bod golygyddion yn ei drin “yn ddifrifol iawn”.

Ond roedd yr arolwg hefyd yn cydnabod fod “cryn dasg” gan Ipso i brofi ei fod yn haeddu ymddiriedaeth, er nad oedd unrhyw dystiolaeth o ddylanwadau allanol ar ei waith.

Ym mis Medi, roedd Aelodau Seneddol yn cwestiynu pam nad oedd Ipso wedi cosbi unrhyw bapur newydd mewn perthynas â thorri rheolau.