Fe fydd cyn-bennaeth RBS, Fred Goodwin yn amddiffyn ei ran yn argyfwng y banciau yn 2008 wrth i randdeiliaid hawlio’u harian yn ôl yn y llys.

Roedd cwymp y banc yn rhan o’r argyfwng ariannol gwaethaf erioed yng ngwledydd Prydain, ac mae 9,000 o randdeiliaid a 18 o sefydliadau’n dwyn achos yn eu herbyn.

Mae disgwyl i’r achos, sy’n dechrau ddydd Llun, bara hyd at 14 wythnos.

Cefndir

Fe fydd gofyn i Fred Goodwin ateb cwestiynau am y digwyddiadau a arweiniodd at Lywodraeth Prydain yn rhoi £45.5 miliwn i’r banc i’w hachub naw mlynedd yn ôl.

Cafodd Fred Goodwin ei urddo’n farchog, ond fe gollodd yr anrhydedd yn dilyn yr helynt.

Fe ddaeth i’r amlwg fod rhanddeiliaid wedi cael cais gan y banc i fuddsoddi £12 miliwn ynddyn nhw.

Mae rhanddeiliaid yn honni eu bod nhw wedi dioddef colledion mawr ar ôl cwymp RBS.

Er bod y rhan fwyaf o achosion wedi’u datrys erbyn hyn, dyma’r criw olaf o randdeiliaid na fu modd dod i gytundeb â nhw.

Fe fydd rhai o benaethiaid y banc yn rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos.

Bydd Fred Goodwin yn cael ei groesholi ar Fehefin 8.