Mae Theresa May dan y lach.
Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o “ymosod” ar bensiynwyr o ganlyniad i gynllun dadleuol yn eu maniffesto gafodd ei lansio’r wythnos hon.

Yn eu maniffesto mae cynllun i gael gwared ar y system ‘clo triphlyg’ o uwchraddio pensiynau, gan gyflwyno system ‘clo dwbl’ yn lle.

Mae’r ‘clo triphlyg’ gafodd ei gyflwyno yn 2011 yn golygu fod pensiynau’n cael eu huwchraddio yn unol â chyfradd enillion, prisiau neu 2.5% – gan ddibynnu ar ba un sydd uchaf.

Ond mae’r Ceidwadwyr yn bwriadu cyflwyno trefn ‘clo dwbl’ sy’n golygu cael gwared ar y lleiafswm o 2.5% o godiad pensiwn.

‘Troi eu cefnau’

“Maen nhw’n haeddu llawer mwy na hyn. Maen nhw’n haeddu parch,” meddai llefarydd busnes Llafur, Rebecca Long-Bailey, wrth gyfeirio at bensiynwyr gwledydd Prydain.

Dywedodd y gallai pensiynwyr fod £330 ar eu colled pe byddai system ‘clo dwbl’ wedi’i gyflwyno yn 2010.

Ychwanegodd fod cynlluniau’r Ceidwadwyr i addasu oed pensiwn i efelychu disgwyliad oes pobol yn golygu y byddai 34 miliwn o bobol yn gorfod gweithio’n hwy.

“Maen nhw wedi dangos y tu hwnt i amheuaeth eu bod wedi troi eu cefnau ar bobl hŷn a chenedlaethau’r dyfodol o bensiynwyr,” ychwanegodd Rebecca Long-Bailey.