Maes Awyr Dinas Llundain fydd y cyntaf trwy wledydd Prydain i fabwysiadu tŵr rheoli traffig awyr ddigidol.
Ar hyn o bryd mae’n rhaid i reolwyr gyfeirio awyrennau o’u tŵr traddodiadol uwchben lleiniau glanio’r maes awyr.
Ond trwy ddefnyddio camerâu ar y lleiniau glanio mi fydd y tŵr newydd yn golygu bydd modd iddyn nhw wneud hyn 80 milltir i ffwrdd o’r maes awyr yn Hampshire.
Bydd y tŵr newydd yn costio rhwng £10 a £30 miliwn ac mi fydd yn weithredol o Hydref 2019 ymlaen.
“Bydd tŵr digidol yn gwella diogelwch ac mi fyddwn yn gosod safonau newydd i ddiwydiant hedfan y byd,” meddai Prif Weithredwr Maes Awyr Dinas Llundain, Declan Collier.