Ruth Davidson - y bygythiad mwya i'r SNP (Llun o'i chyfri Twitter)
Fe ddylai plaid annibyniaeth yr SNP ennill mwyafrif mawr o seddi’r Alban yn ôl y pôl piniwn diweddara’.

Ond mae cynnydd y Ceidwadwyr hefyd yn parhau ac arweinwyr y ddwy blaid – Nicola Sturgeon a Ruyth Davidson – yw’r rhai mwya’ poblogaidd.

Mae’r SNP, y Ceidwadwyr a Llafur i gyd wedi ennill pwynt ers yr arolwg diwetha’ a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli un.

SNP – tri chwarter y seddi

Yn ôl arolwg YouGov, mae’r canrannau’n awgrymu y byddai Llafur yn aros ar ddim ond un sedd – fe fyddai’r SNP yn cael 47, y Ceidwadwyr yn cael 8 a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael 3.

Mae hynny’n golygu y byddai’r SNP yn colli seddi o gymharu â 2015, ond fe fyddai hynny’n dal i gael ei ystyried yn ganlyniad da.

Yn yr Alban, mae’r ymgyrch wedi crynhoi o amgylch y ddadl annibyniaeth, gyda’r Ceidadwyr yn arwain y gwrthwynebiad.

Mae’r pôl yn awgrymu bod y farn ar y pwnc hwnnw yn aros yn union fel yr oedd adeg y refferendwm yn 2014.

Y ffigurau

Dyma’r canrannau yn ôl y pôl:

SNP                       42%

Ceidwadwyr        29%

Llafur                    19%

Dem Rhydd           6%