Theresa May )o'i chyfri Twitter)
Arweinydd Plaid Cymru oedd ar y blaen yn y ddadl deledu neithiwr wrth ymosod ar Brif Weinidog Prydain am beidio â bod yno.

Fe ddywedodd Leanne Wood fod Theresa May yn dangos “arweinyddiaeth wan ac ansicr” – yn groes hollol i sloganau’r Prif Weinidog ei hun.

“Efallai eich bod yn rhy ofnus i ddod yma heno, er mwyn i’ch troeon pedol gael sylw ac i’ch polisïau creulon gael eu datgelu,” meddai.

“R’ych chi eisiau i’r etholiad yma fod am ddim byd ond Brexit achos mae hynny’n osgoi siarad am y pynciau go iawn fel y Gwasanaeth Iechyd, yr economi a’ch toriadau i’n gwasanaethau cyhoeddus.”

Beirniadu Llafur hefyd

Ac yntau hefyd yn absennol o’r ddadl ar ITV, fe gafodd yr arweinydd Llafur hefyd ei feirniadu am fethu â chynnig gwrthwynebiad digon cry’ i’r Llywodraeth Geidwadol.

Yn ôl Caroline Lucas, cyd-arweinydd y Blaid Werddo, roedd Jeremy Corbyn wedi rhoi siec wag i’r Ceidwadwyr ac wedyn wedi helpu mynd â nhw i’r banc i’w thalu i mewn.

Ac fe ddywedodd arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, fod gwrthblaid gref yn hanfodol.

Dadl deledu – ymosod ar May a Corbyn

Arweinydd Plaid Cymru’n arwain y feirniadaeth ar Brif Weinidog Prydain