Mae dyn a dynes wedi’u cyhuddo o droseddau’n ymwneud â masnachu pobol yng Ngogledd Iwerddon.

Fe ddaw wedi cyrch i achub dioddefwr honedig yn Dungannon, Sir Tyrone, ddydd Mawrth yr wythnos hon.

Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi cyhuddo dyn 32 oed o fasnachu pobol er mwyn ecsbloetio rhywiol, rheoli puteinio, treisio a herwgipio.

Mae dynes 20 oed wedi’i chyhuddo o fasnachu pobol er mwyn ecsbloetio rhywiol, rheoli puteinio, a herwgipio.

Mae disgwyl i’r ddau ymddangos gerbron Llys Ynadon Strabane.