Mae dau ddyn wedi’u harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gynnau tân bwriadol, wedi i ffrwydriad anafu 34 o bobol.

Fe gwympodd sawl adeilad yn ystod y digwyddiad yn New Ferry ger Penbedw, ddydd Sadwrn, Mawrth 25.

Mae dyn 62 oed, o ogledd Cymru, wedi’i arestio ar amheuaeth o gynllwynio i gynnau tân bwriadol, gan amharchu’r bygythiad i fywyd. Mae hefyd wedi’i arestio dan Ddeddf Twyll 2006.

Mae dyn 55 oed o’r Wirral hefyd wedi’i arestio ar amheuaeth o’r un dwy drosedd.

Mae’r ddau’n parhau yn y ddalfa, ac yn dal i gael eu holi gan yr heddlu.