Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Byddai’r Blaid Lafur yn deddfu er mwyn cadw’r gwarant triphlyg ar bensiynau pe baen nhw’n ennill yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Byddai hynny’n golygu diogelu cynnydd blynyddol o 2.5% ar bensiynau.

Cafodd y polisi ei gyflwyno gan David Cameron er mwyn sicrhau bod pensiynau’n codi’n unol â chyflogau, chwyddiant neu 2.5%, p’un bynnag yw’r uchaf ohonyn nhw.

Ond mae Theresa May wedi gwrthod sicrhau y bydd y polisi’n parhau o dan y Ceidwadwyr.

Jeremy Corbyn yn barod i fanteisio

Mae diffyg ymrwymiad Theresa May yn golygu bod arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn barod i geisio denu pleidleiswyr Ceidwadol drwy gynnig sicrwydd y bydd y polisi’n un o’i flaenoriaethau.

Yn ôl Jeremy Corbyn, mae 300,000 yn fwy o bensiynwyr mewn tlodi nag yn 2010, pan ddaeth David Cameron yn Brif Weinidog.

Bydd Jeremy Corbyn yn annerch cynulleidfa yn Norwich heddiw, lle mae disgwyl iddo ddweud bod y Ceidwadwyr yn esgeuluso pobol oedrannus.

Democratiaid Rhyddfrydol

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn dweud y byddan nhw’n cadw’r gwarant triphlyg ar bensiynau, ond y bydd rhaid i bensiynwyr sy’n derbyn y swm mwyaf o arian dalu mwy o lwfans tanwydd bob blwyddyn.

Mae’r Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol wedi croesawu polisi’r Blaid Lafur.