Gwylnos yn Llundain
Mae angladd dynes 31 oed o Rwmania a gafodd ei lladd yn ystod yr ymosodiad brawychol yn Llundain ar Fawrth 22 wedi cael ei gynnal heddiw.

Cafodd Andreea Cristea ei lladd pan gafodd ei tharo gan gar Khalid Masood, gan lanio yn afon Tafwys. Bu farw bythefnos yn ddiweddarach.

Torrodd ei chariad, Andrei Burnaz ei droed yn y digwyddiad.

Cafodd plismon ei drywanu i farwolaeth gan Khalid Masood cyn i’r brawychwr gael ei saethu’n farw.

Roedd dwsinau o bobol yn y gwasanaeth yn Constanta yn nwyrain Rwmania y bore ma.