Mae systemau cyfrifiadurol y Gwasanaeth Iechyd wedi eu taro gan ymosodiadau seibr, ac mae ambiwlansys wedi eu dargyfeirio a chleifion wedi eu rhybuddio i gadw draw o adrannau brys.

Fe gafodd rhaglen o’r enw “Wanna Decryptor” ei ddefnyddio i effeithio ar y systemau technoleg gwybodaeth, a hynny er mwyn ceisio iawndal.

Mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos bod sgrîns cyfrifiaduron y Gwasanaeth Iechyd yn gofyn am werth $300 o’r arian Bitcoin gyda’r neges: ‘Ooops, yopur files have been encrypted!”

Os nad yw’r rhai sydd wrthi yn derbyn tâl o fewn tridiau, maen nhw yn bygwth dyblu pris y ‘iawndal’.

Mae ysbytai yn Llundain, Blackpool, Hertfordshire a Derbyshire ymysg y rhai sydd wedi dioddef problemau.