£4.1 miliwn oedd cyflog Prif Weithredwr Tesco’r llynedd, 10% yn llai na’r flwyddyn cynt wedi iddo dderbyn llai o fonws.

Yn y flwyddyn ariannol 2015-2016 roedd Dave Lewis wedi derbyn £4.6 miliwn, ond fe syrthiodd y flwyddyn wedyn wrth iddo dderbyn llai o’r bonws sy’n cael ei dalu am daro targedau gwerthu a gwneud elw.

Mae Dave Lewis yn fos ar Tesco ers 2014 ac wedi ei ganmol am wella’r busnes ers iddo gymryd drosodd.

Fis diwethaf roedd Tesco yn cyhoeddi iddo gynyddu ei werthiant blynyddol am y tro cyntaf ym Mhrydain ers saith mlynedd, gydag elw gweithredol y cwmni yn codi 30% i £1.28 biliwn, a refeniw y grŵp wedi cynyddu 3.7% i £55.9 biliwn.

Fodd bynnag, fe fydd Tesco yn gorfod talu £235 miliwn i fuddsoddwyr oherwydd sgandal cadw cyfrifon yn 2014.

Ac mae’r archfarchnad yn anelu at dorri £1.5 biliwn o’i gostau dros y tair blynedd nesaf er mwyn cynyddu’r elw, ac mae miloedd o swyddi yn y fantol wrth i’r cwmni ystyried cyflogi llai o weithwyr gyda’r nos a chyfyngu ar oriau agor.