Mae cleifion HIV yn medru disgwyl byw bywydau sydd yr un hyd â gweddill y boblogaeth, yn ôl adroddiad newydd.

Daw’r siwrnal meddygol The Lancet i’r casgliad bod datblygiadau mewn effeithlonrwydd y cyffuriau sydd yn trin y clefyd yn golygu bod pobol ifanc â HIV bellach yn medru byw hyd at henoed.

Mae disgwyl i bobol wnaeth ddechrau eu triniaeth yn 2010 pan yn ugain blwydd oed, i fyw deg blynedd yn hirach na phobol wnaeth ddechrau eu triniaeth yn 1996 pan yn ugain.

Er hynny, os caiff pob grŵp oedran eu hystyried, mae hyd disgwyliedig bywydau pobol sydd â HIV yn parhau i fod yn is nag hyd fywydau gweddill y boblogaeth.

“Camp feddygol anferth”

“Mae’r ffaith bod modd ymdopi a haint oedd ar un adeg â phrognosis ofnadwy yn gamp feddygol anferth,” meddai Cadeiryddes Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, yr Athro Helen Stokes-Lampard.

“Rydym yn gobeithio bydd yr astudiaeth yma yn cyfrannu at waredu unrhyw stigma sydd yn gysylltiedig â HIV a gobeithiwn fydd cleifion yn medru byw bywydau hir heb ragfarn wrth geisio cael eu cyflogi.”