Mae deuddeg o bobol wedi cael eu harestio dan amheuaeth o fod wedi cludo pobol i’r Deyrnas Unedig er mwyn eu hecsbloetio.

Daeth yr arestiadau yn sgil ymgyrch deuddydd o hyd a chyrchoedd heddlu mewn wyth cyfeiriad yng ngorllewin Newcastle.

Yn ôl Heddlu Northumbria o’r 12 o bobol sydd wedi cael eu harestio mae saith ohonyn nhw yn parhau i fod yn y ddalfa.

Roedd nifer o asiantaethau ynghlwm â’r ymgyrch gan gynnwys Cyngor Dinas Newcastle, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

“Rydym yn ennyn ar bobol i fod yn wyliadwrus dros eu cymunedau ac os ydych yn gweld rhywbeth amheus neu rywbeth sydd ddim yn teimlo’n iawn, cysylltwch â’r heddlu,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygwr, Steve Barron.