Mae’r heddlu wedi enwi’r ferch 11 oed fu farw ar ôl cwympo o atyniad dŵr ym mharc antur Drayton Manor yn Swydd Staffordd ddoe.

Cwympodd Evha Jannath o Gaerlŷr allan o gwch ar y Splash Canyon yn ystod taith ysgol.

Cafodd hi ei thynnu o’r dŵr er mwyn derbyn triniaeth, cyn iddi gael ei throsglwyddo i Ysbyty Plant Birmingham, lle bu farw’n ddiweddarach.

Bydd y parc antur ynghau heddiw wrth i ymchwiliad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch barhau.

Bydd ei hysgol – ysgol integredig i Fwslemiaid – hefyd ynghau ddydd Mercher.