Mae merch ddwyflwydd oed wedi cael anafiadau difrifol i’w phen a’i chorff yn dilyn ymosodiad gan gŵn ei chymydog yn Lerpwl ddydd Sul.

Roedd y plentyn yn chwarae gyda dau blentyn arall yng ngardd ei thŷ yn Stryd Cockburn, Toxteth, Lerpwl pan lwyddodd y cŵn “anferth” i ddianc o’r ardd drws nesaf ac ymosod arnyn nhw.

Llwyddodd modryb y plentyn oedd yn gofalu am y plant, i wrthsefyll yr ymosodiad a chario’r plentyn i fan diogel wrth i gymdogion eu cynorthwyo.

Cafodd y plentyn ei thrin yn y fan a’r lle gan barafeddygon cyn cael ei chludo gan ambiwlans awyr i Ysbyty Plant Alder Hey. Mae’n debyg bod ei chyflwr yn ddifrifol ond nid yn angheuol.

11 o gŵn

Mae dyn 35  oed o Toxteth wedi ei arestio ar amheuaeth o fod yn berchen ar gŵn peryglus neu gŵn sydd y tu hwnt i reolaeth.

Mae Heddlu Glannau Merswy yn credu mai American Bully yw brîd y cŵn – brîd cyfreithlon – ac roedd 11 ohonyn nhw yn nhŷ’r cymydog.  Dywed pobl leol bod y cŵn wedi dianc drwy dwll yn y ffens.

Mae pum ci a chwech o gŵn bach bellach yng ngofal yr heddlu ac maen nhw’n parhau a’u hymchwiliad.