Mae myfyriwr sy’n cael ei ddisgrifio fel dyn sydd ag obsesiwn ag arfau, yn wynebu cyfnod dan glo am osod bom gartref ar drên tanddaearol yn Llundain.

Roedd Damon Smith wedi adeiladu’r ddyfais gartref yn defnyddio cloc gwerth £2 o archfarchnad Tesco, a hynny wedi iddo fod yn chwilio ar y we am erthygl ‘Make A Bomb In The Kitchen Of Your Mom’.

Er iddo wadu bod â deunydd ffrwydrol yn ei feddiant, roedd Damon Smith, 20, wedi cyfaddef i’r drosedd lai o greu bom.

Ac er i’w gyfreithiwr ddweud wrth y rheithgor yn yr Old Bailey nad oedd ei gleient yn “jihadi llawn casineb”, ac nad oedd wedi bwriadu achosi niwed i ne, fe’u cafwyd yn euog o’r cyhuddiad mwy difrifol.