(Llun: Rui Vieira/PA)
Bydd chwarter o gartrefi a gaiff eu prynu yn y Deyrnas Unedig eleni yn cael eu prynu â chymorth rhieni, yn ôl ymchwil newydd.

Bydd rhieni yn benthyca dros £6.5 biliwn i’w plant eleni, sydd yn gynnydd o’r £5 biliwn a gafodd ei gyfrannu’r llynedd, yn ôl ymchwil gan grwpiau Legal & General a Cebr.

Fe fydd yr arian yn cael ei roi tuag at flaendaliadau 298,000 o forgeisi ac yn helpu eraill i brynu gwerth £75 biliwn o gartrefi, yn ôl yr adroddiad.

Yn ôl yr ymchwil mae cyfraniad ‘Banc Mam a Dad’ o ran benthyciadau morgeisi ar yr un lefel a’r nawfed benthyciwr morgeisi mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gan fod yn gysylltiedig â 26% o’r holl drafodion eiddo yn y DU eleni.

“Banc Mam a Dad”

“Mae pwysigrwydd ‘Banc Mam a Dad’ o ran helpu pobol ifanc i brynu tŷ am y tro cyntaf yn cynyddu,” meddai Prif Weithredwr Legal & General, Nigel Wilson.

“Mae rhieni am weld eu plant yn llwyddo, ac mae ‘Banc Mam a Dad’ yn adlewyrchu eu haelioni ond hefyd yn symptom o farchnad dai sydd wedi torri.”