Heddlu gwrth-frawychiaeth yr Heddlu Metropolitan (Llun: PA)
Mae tair merch yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau brawychol yn ystod cyrch sy’n gysylltiedig â digwyddiad gwrth-frawychiaeth arall pan gafodd dynes ei saethu.

Cafodd y merched, dwy yn 18 oed ac un yn 19 oed, eu harestio yn dilyn cyrchoedd gan Adran Wrth-Frawychiaeth yr Heddlu Metropolitan yn nwyrain Llundain ddydd Llun.

Maen nhw’n cael eu holi mewn gorsaf y tu allan i Lundain ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi ac annog gweithredoedd brawychol.

Dywedodd Heddlu’r Met bod yr arestiadau yn rhan o ymchwiliad sy’n gysylltiedig â chyrch tebyg ddydd Iau yn Ffordd Harlesden yng ngogledd Llundain pan gafodd dynes 21 oed e saethu gan heddlu arfog.

Roedd y ddynes wedi gadael yr ysbyty ddydd Sul ar ôl cael triniaeth ac yn cael ei holi gan yr heddlu.  Cafodd chwech o bobl eraill eu harestio mewn cysylltiad â’r cyrch, gan gynnwys pump mewn eiddo yng ngogledd Llundain ac un yng Nghaint.

Mae 10 o bobl bellach wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r cyrch yn Ffordd Harlesden ac mae’r heddlu’n credu eu bod nhw wedi llwyddo i atal cynllwyn brawychol.