Mae dyn 25 oed yn Iwerddon wedi’i gyhuddo o fod â rhan mewn terfysgaeth yn ymwneud ag Islam, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ardal Waterford ddydd Gwener.

Mae llefarydd ar ran y Gardai yn dweud i ddynes o’r Deyrnas Unedig, a gafodd ei harestio ar yr un oryd â’r dyn yn Waterford ddydd Iau, wedi’i rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Fe fydd ffeil arni hi a’i hachos yn cael ei pharatoi ar gyfer y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Y gred ydi fod yr ymchwiliad yn ymwneud â hwyluso trosglwyddo arian a gwybodaeth ar ran pobol sy’n cynllwynio gweithredoedd brawychol ledled y byd.