Mae dyn wedi’i arestio yn Whitehall ar amheuaeth o gynllwynio ymosodiad brawychol, meddai Scotland Yard.

Roedd y dyn yn cario rycsac ar ei gefn yn cynnwys beth bynnag dair o gyllyll, ac fe gafodd ei ddwyn i’r ddalfa toc cyn 2.30yp ddydd Iau, wedi i heddlu ei stopio a’i archwilio fel rhan o drefn feunyddiol.

“Mae’r dyn, yn ei 20au hwyr, wedi’i arestio am fod ag arf ymosodol yn ei feddiant ac ar amheuaeth o fod yn cynllwynio i trefnu ac o fod yn barod i gynnal ymosodiad a gweithred frawychol,” meddai datganiad gan Heddlu Llundain.

“Mae cyllyll wedi’u cymryd oddi arno, ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yn ne Llundain o dan y Ddeddf Derfysgaeth.”