Mae ymladdwyr tân yn ceisio diffodd fflamau yn Ysbyty Christie ym Manceinion.

Fe gafodd y criwiau eu galw toc wedi 10.30yb ddydd Mercher, wedi i dân gynnau yn yr adeilad trillawr sy’n gartre’ i swyddfeydd a labordai, ar flaen prif adeiladau’r ysbyty.

Daeth cadarnhad gan Wasanaeth Tân ac Achub Greater Manchester fod yr ymladdwyr yn gwisgo offer anadlu, ac yn defnyddio pump injan ynghyd ag ysgol hir, i geisio dod â’r tân dan reolaeth.

Does yna’r un claf wedi’i effeithio gan y digwyddiad, meddai llefarydd wedyn, gan fod y tân wedi’i gyfyngu i Adeilad Paterson, lle mae gwaith ymchwil i ganser yn digwydd.

Mae Ysbyty Christie yn un o’r ysbytai mwya’ blaenllaw yn Ewrop o ran trin canser.