Madeleine McCann (Llun: PA)
Mae’r heddlu’n dal i fynd ar ôl tystiolaeth “hanfodol”, ddeng mlynedd ar ôl diflaniad y ferch fach Madeleine McCann yn Praia de Luz.

Dywedodd Comisiynydd Cynorthwyol Heddlu Llundain eu bod nhw’n parhau i ymchwilio i gyfres o bosibiliadau allai eu harwain at y ferch fach.

Aeth hi ar goll tra ei bod hi a’i theulu ar eu gwyliau ar Fai 3, 2007, a hithau’n dair oed ar y pryd.

Dywedodd ei mam, Kate fod dengmlwyddiant ei diflaniad yn nodi “amser sydd wedi cael ei ddwyn”.

Mae’r heddlu eisoes wedi pori drwy 40,000 o ddogfennau ac wedi ymchwilio i fwy na 600 o unigolion ers 2011 – ac mae pedwar o bobol oedd dan amheuaeth mewn perthynas â’r achos bellach wedi cael eu diystyru.

Kate a Gerry McCann

Mae Kate a Gerry McCann o Swydd Gaerlŷr wedi dweud na fyddan nhw fyth yn rhoi’r gorau i chwilio am eu merch.

Dywedodd yr heddlu fod “tipyn nad yw’n hysbys” iddyn nhw ar hyn o bryd, a bod yr “holl ddamcaniaethau” yn agored iddyn nhw o hyd.

Ac fe gadarnhaon nhw nad oes “tystiolaeth gadarn” i ddweud a yw hi’n fyw neu’n farw.

Ar dudalen Facebook yr ymgyrch i ddod o hyd i Madeleine McCann, dywedodd ei theulu: “Deng mlynedd – does dim ffordd hawdd o’i ddweud e, ei ddisgrifio fe, ei dderbyn e. A nawr dyma ni… Madeleine, ein Madelein ni – 10 mlynedd.

“Mae’r rhan fwyaf o ddiwrnodau’n debyg i’r gweddill – diwrnod arall. Mai 3, 2017 – diwrnod arall. Ond deng mlynedd – nodwr gwael o amser, amser wedi’i ddwyn.”