Yng Nghymru a Lloegr mae achosion o anafiadau oherwydd trais difrifol wedi cwympo 10% yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl adroddiad Prifysgol Caerdydd, bu gostyngiad ymhlith dynion a menywod yn y nifer cafodd eu hanafu oherwydd trais rhwng 2016 a 2015.

Dywed ymchwilwyr bod 188,803 o bobl wedi mynd i adrannau achosion brys am driniaeth yng Nghymru a Lloegr oherwydd achosion o drais y llynedd – 21,437 yn llai nag yn 2015.

Ers 2010, mae 40% yn llai o bobl wedi gorfod derbyn triniaeth mewn adrannau achosion brys oherwydd trais.

“Gostyngiad sylweddol”

“Mae’r gostyngiad sylweddol yma bob blwyddyn yn newyddion da i ddinasyddion a chymunedau ledled Cymru a Lloegr,” meddai Chyfarwyddwr y Grŵp Ymchwilio i Drais ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Jonathan Shepherd.

“Ar ben hynny, mae’r gwasanaethau iechyd a’r system gyfiawnder troseddol wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn costau o ganlyniad i drais, ac mae llai o faich ar yr adrannau achosion brys sydd o dan bwysau.”

Er bu cwymp ar y cyfan mae’n debyg bod trais sy’n gysylltiedig ag alcohol yn parhau, a bod y niferoedd sy’n mynd i adrannau achosion brys ar benwythnosau ar ei lefel uchaf.