Fe fydd mwy na 100,000 o weithwyr y Post Brenhinol yn pleidleisio ynglŷn â chynnal streiciau os nad yw’r cwmni yn newid ei gynlluniau i gau ei gynllun pensiwn, meddai’r undeb sy’n eu cynrychioli.

Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) wedi beirniadu’r penderfyniad dadleuol i gau’r cynllun pensiwn a buddion wedi’u diffinio ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac wedi rhybuddio y bydd yn gweithredu’n ddiwydiannol.

Mewn sesiwn preifat yn ystod cynhadledd flynyddol yr undeb yn Bournemouth fe benderfynwyd i fwrw mlaen gyda’r cynlluniau i gynnal pleidlais ynglŷn â streicio os nad yw’r cwmni’n ail-ystyried ei benderfyniad.

Dywedodd dirprwy ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Terry Pullinger bod yr aelodau’n “grac.”

Ychwanegodd: “Os na allwn ni wneud cynnydd gwirioneddol a chael cytundeb erbyn mis Awst, fe fydd yn rhaid i ni wneud penderfyniad difrifol ynglyn a chynnal pleidlais am weithredu’n ddiwydiannol.”