Mae ymarfer corff am o leiaf 45 munud sawl gwaith yr wythnos yn medru gwella sgiliau meddyliol pobol dros 50 oed, yn ôl ymchwil diweddar.

Yn ôl dadansoddiad o 39 arolwg mae sawl dull gwahanol o ymarfer corff yn medru gwella’r cof a  gallu pobol i ganolbwyntio.

Dywed arbenigwyr o Gylchgrawn Meddygaeth Chwaraeon Prydeinig bod nofio, seiclo, loncian a tai chi oll “yr un mor effeithiol.”

Dywedodd yr arbenigwyr bod yr ystadegau yn “bwysig” gan fod pobol sydd yn ei chael hi’n anodd gwneud ymarfer corff, yn fwy tebygol o ddewis y dull llai heriol o tai chi.

“Manteision ymarfer corff”

Nid oedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar afiechydon sy’n effeithio’r cof ond mae sawl mudiad wedi pwysleisio’r cysylltiad rhwng ymarfer corff a sgiliau meddwl da.

“Mae’r manteision o ymarfer corff yn rheolaidd yn dod yn amlycach,” meddai Cyfarwyddwr Ymchwil Cymdeithas Alzheimer, Doug Brown.

“Mae astudiaethau yn y gorffennol wedi dangos bod pobol sydd yn ymarfer corff yn llai tebygol o ddatblygu dementia, ond mae angen ymchwil pellach i ddarganfod pa fath a faint sydd angen er mwyn lleihau’r risg o’r cyflwr.”