Elton John (llun: Cyngor Conwy)
Mae’r canwr a’r cyfansoddwr, Elton John, wedi gohirio cyfres o berfformiadau wedi iddo gael ei heintio a math difrifol o facteria.

Mae’n debyg i’r canwr 70 oed gael ei heintio yn ystod ymweliad diweddar â De America, ac wrth ddychwelyd o Chile i Brydain cafodd ei gyfeirio at yr ysbyty lle treuliodd ddwy noson mewn gofal dwys.

“Mae heintiau o’r natur hwn yn brin ac o bosib yn angheuol,” meddai datganiad ar ei ran gan ddweud fod tîm o feddygon wedi trin yr haint yn llwyddiannus.

Roedd disgwyl iddo gynnal cyfres o berfformiadau o’i sioe ‘The Million Dollar Piano’ yn Las Vegas yn ystod mis Ebrill a Mai, ond mae wedi eu gohirio wrth iddo barhau i wella yn ei gartref.

Mae’r llefarydd wedi cadarnhau fod disgwyl iddo wneud gwellhad llawn gan gynnal ei berfformiad nesaf ar 3 Mehefin yn Twickenham, Llundain.