Mae dyn 30 oed, a oedd wedi ceisio teithio i Syria i ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), wedi pledio’n euog i droseddau brawychol.

Roedd Ghulam Hussain, o Batley, Swydd Efrog wedi cyfaddef i ddau drosedd brawychol pan ymddangosodd yn Llys y Goron Leeds ddydd Llun.

Fe lwyddodd Ghulam Hussain i gael cardiau credyd drwy roi manylion ffug, a phrynu tocyn i hedfan i Bacistan a dychwelyd wythnos yn ddiweddarach o Dwrci.

Roedd hefyd wedi rhoi £160 i swyddog cudd i dalu am ei westy wrth deithio i ymuno ag IS yn Syria ac wedi rhoi cyngor ymarferol iddo i’w helpu i ymuno a’r grŵp brawychol.

Cafodd ei arestio yn dilyn ymchwiliad gan uned wrth-frawychiaeth y gogledd ddwyrain.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 12 Mai.