Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn a gafodd ei ladd ar ôl i fyrgleriaid ei daro gyda’i gar ei hun, meddai Heddlu Manceinion.

Bu farw Mike Samwell, 35, ar ôl herio’r byrgleriaid oedd wedi torri mewn i’w gartref wrth iddo gysgu yn ei ystafell wely gyda’i wraig Jessica, am 3 y bore ddydd Sul.

Cafwyd hyd iddo gydag anafiadau difrifol mewn safle parcio yng nghefn y tŷ yn ardal Chorlton ym Manceinion a bu farw lai nag awr yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Dywedodd Heddlu Manceinion bod Mike Samwell, cyn swyddog gyda’r Llynges, wedi mynd i lawr grisiau ar ôl clywed sŵn a’i fod wedi mynd i gefn y tŷ yn Heol  Cranbourne, lle cafodd ei daro gan y car.

Cafwyd hyd i’w gar Audi S3 du, wedi’i ddifrodi, tair milltir i ffwrdd yn ardal Ladybarn yn y ddinas.