Marathon Llundain (Llun: PA)
Mae mwy o redwyr nag erioed o’r blaen yn cymryd rhan ym Marathon Llundain heddiw.

Fe fydd 40,382 o bobol yn ceisio cwblhau’r ras 26.2 milltir o hyd drwy’r strydoedd, gan ragori ar y record o 39,140 y llynedd.

Mae disgwyl hyd at 800,000 o wylwyr ac mae mwy o heddlu yno nag arfer yn dilyn yr ymosodiad brawychol yn San Steffan fis diwethaf.

Ond yn ôl Heddlu Llundain, does “dim tystiolaeth” fod unrhyw un yn bwriadu targedu’r ras heddiw.

Enwogion

Ar drothwy’r etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8, mae 16 Aelod Seneddol yn rhedeg y ras – pum aelod Llafur, naw Ceidwadwr, un annibynnol ac un Aelod Seneddol SNP.

Ymhlith yr enwogion eraill yn y ras mae’r band Scouting for Girls, y cyflwynydd teledu a radio Chris Evans, yr actor Adam Woodyatt a llu o athlewyr Olympaidd a Pharalympaidd.

Ffefrynnau

Ymhlith y dynion, Kenenisa Bekele o Ethiopia a Stanley Biwott o Kenya yw’r ceffylau blaen, tra bod Mary Keitany, Mare Dibaba a Jo Pavey ymhlith y ffefrynnau yn ras y menywod.

Yn ras cadeiriau olwyn y dynion, yr athletwr Paralympaidd David Weir yw’r ffefryn.