Burka Foslemaidd (Llun: PA)
Dydi gwahardd y burka ddim yn ymosodiad ar Fwslimiaid, yn ôl arweinydd UKIP, Paul Nuttall.

Mae’r blaid hefyd yn ymgyrchu i geisio sicrhau nad yw cyfreithiau Sharia yn cael eu cyflwyno yng ngwledydd Prydain.

Yn hytrach, mae’r blaid yn dadlau fod angen tawelu pryderon nifer sylweddol o bobol ynghylch diogelwch gwledydd Prydain a diffyg integreiddio cymdeithasol.

Yn 2013, dywedodd Paul Nuttall na fyddai’r blaid yn ceisio gwaharddiad ar y burka.

Ond bellach, mae’n galw am roi dirwy i bobol sy’n gorchuddio’u hwynebau’n gyhoeddus.

Cymdeithas Brydeinig

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr ar y BBC: “Mae gyda ni ddiogelwch uwch ar hyn o bryd ac er mwyn i gamerâu cylch-cyfyng fod yn effeithiol, mae angen i chi allu gweld wynebau pobol, oherwydd licio neu beidio yn y wlad hon, mae mwy o gamerâu cylch-cyfyng y pen nag yn unrhyw le arall ar y blaned.

“Ni sy’n cael ein gwylio fwyaf ac er mwyn i hynny fod yn effeithiol, mae angen i chi allu gweld wynebau pobol.

“Yn ail, mae’r mater o integreiddio – dw i ddim yn credu y gallwch chi integreiddio’n llawn a mwynhau ffrwyth cymdeithas Brydeinig os na allwch chi weld wynebau pobol.”

Cyfraith Sharia

Ychwanegodd Paul Nuttall fod gwahardd cyfraith Sharia yn ymgais i atal “system gyfreithiol baralel” yng ngwledydd Prydain.

Pan gafodd ei holi a fyddai’n gwahardd cyfreithiau Iddewig, dywedodd fod y sefyllfa “ychydig yn wahanol”, gan fod llai o Iddewon yng ngwledydd Prydain.

“Sefyllfa Sharia yw fod y boblogaeth Foslemaidd yn dyblu o ddegawd i ddegawd. Mae’n dair miliwn erbyn hyn, bydd yn chwe miliwn cyn bo hir.”

Wfftiodd yr awgrym y byddai UKIP yn ceisio cau mosgiau yng ngwledydd Prydain.

“Nid ymosodiad ar Fwslimiaid yn benodol yw hwn, mater o integreiddio yw e.”