Theresa May (Llun: PA)
Mae 50% o bleidleiswyr gwledydd Prydain yn cefnogi’r Ceidwadwyr a Theresa May i ennill yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8, yn ôl pôl piniwn gan ComRes i’r Sunday Mirror.

Mae’r ffigwr ddwywaith y gefnogaeth i Lafur, sydd ar 25% – y tro cyntaf i unrhyw blaid ennill 50% o’r gefnogaeth ers 2002, meddai ComRes. Dyma’r tro cyntaf, hefyd, i’r Ceidwadwyr gyrraedd 50% ers 1991.

Mae lle i gredu bod mwy o bobol yn cefnogi’r Ceidwadwyr ers i Brif Weinidog Prydain, Theresa May alw etholiad brys.

Does dim newid yn y gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol (11%), tra bod y gefnogaeth i UKIP i lawr ddau bwynt i 7%.

Polau eraill

Mae newyddion da i’r Ceidwadwyr mewn pôl arall i’r Observer hefyd, sy’n dangos 45% o gefnogaeth iddyn nhw, saith pwynt yn uwch na’r wythnos ddiwethaf, a 19 pwynt ar y blaen i Lafur, sydd wedi gostwng tri phwynt i 26%.

Mae’r Democratiaid i fyny bedwar pwynt i 11%, ac UKIP i lawr bum pwynt i 9%.

Difaterwch

Ond er gwaetha’r polau, gallai difaterwch pleidleiswyr Ceidwadol achosi problemau i’r Llywodraeth, yn ôl cadeirydd ComRes, Andrew Hawkins.

Dywedodd fod y polau’n “berygl mawr i’r Torïaid”.

“Dyna i chi broblem braf i blaid ei chael, ond mae’n her fodd bynnag mewn etholiad all fod yn nodedig am niferoedd isel yn troi allan, gan achosi canlyniadau annisgwyl a syfrdanol mewn etholaethau unigol.”

YouGov

Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr hefyd ar y blaen gyda 48% yn ôl pôl piniwn YouGov i’r Sunday Times.

Maen nhw hefyd yn gosod Llafur ar 25%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 12% ac UKIP ar 5%, ffigwr isa’r blaid honno ers 2012.

Mail on Sunday

Yn ôl Survation i’r Sunday Mail, fodd bynnag, mae llai o fwlch rhwng y pleidiau nag sydd gan y gweddill.

Maen nhw’n gosod y Ceidwadwyr ar 40%, 11 o bwyntiau o flaen Llafur, sydd ar 29%.

11% yr un oedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol ac UKIP.