(llun: PA)
Mae’r Ceidwadwyr yn gorfod ceisio amddiffyn eu hunain yn erbyn honiadau eu bod yn bwriadu codi trethi os caiff Theresa May ei hail-ethol yn Brif Weinidog.

Daw hyn ar ôl i’r Canghellor Philip Hammond awgrymu yr hoffai gael gwared ar yr addewid ym maniffesto ei blaid yn 2015 i beidio â chodi treth incwm, treth ar werth na chyfraniadau yswiriant gwladol yn ystod oes y senedd.

Dywedodd fod arno angen mwy o “hyblygrwydd” wrth reoli’r economi.

Mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi achub ar y cyfle i gyhuddo’r Torïaid o fod yn cynllwynio i godi’r trethi hyn.

Mae llefarydd ar ran y Canghellor yn gwadu bod unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto.

Pensiynau

Mae’r Torïaid hefyd yn wynebu cyhuddiadau o esgeuluso’r henoed oherwydd diffyg eglurder ynghylch eu cynlluniau ar gyfer pensiynau.

Mae hyn ar ôl i Theresa May wrthod cadarnhau a fyddai eu maniffesto yn cadw’r gwarant triphlyg – sef y bydd pensiwn y wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn yn ôl graddfa chwyddiant, enillion cyfartalog neu 2.5%, prun bynnag fo’r uchaf.

Ar y llaw arall, fe wnaeth hi gadarnhau y byddai hi’n glynu at ymrwymiad David Cameron i wario 0.7% o gyfanswm cyllid y wlad ar gymorth rhyngwladol – rhywbeth sydd wedi cythruddo rhai aelodau o’i phlaid ei hun.

Dywed cyn-gadeirydd y Torïaid, yr Arglwydd Tebbit, yn y Daily Telegraph: “Mae’n gychwyn gwael iawn i’r ymgyrchu i fynnu cynyddu cymorth rhyngwladol bob blwyddyn tra nad oes ddigon o arian i’r Gwasanaeth Iechyd. Dyw hyn ddim yn ymddangos yn wleidyddiaeth dda i mi.”

Defnyddio aelodau

Wrth ymgyrchu yng ngogledd-orllewin Lloegr heddiw, dywedodd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, y byddai Llafur yn defnyddio ei 500,000 o aelodau ar lawr gwlad – mwy nag sydd gan unrhyw blaid arall – i gyfleu ei neges i etholwyr.

“Nid yw canlyniad yr etholiad wedi’i benderfynu ymlaen llaw,” meddai. “Mae ymgyrch Llafur yn cael cychwyn gwych.

“Rydym yn defnyddio nerth ein aelodaeth i roi miloedd o bobl ar y strydoedd, i guro ar ddrysau a rhannu taflenni i fynd â’n neges yn uniongyrchol at bleidleiswyr.”