(llun o wefan leave.EU)
Mae’r grŵp o ymgyrchwyr dros Brexit, Leave.EU, yn wynebu ymchwiliad swyddogol i’w wariant yn ystod ymgyrch y refferendwm y llynedd.

Dywed y Comisiwn Etholiadol, sy’n gyfrifol am oruchwylio etholiadau, fod lle rhesymol dros amau bod y gyfraith wedi cael ei thorri.

Mewn datganiad, dywedodd y Comisiwn y bydd yr ymchwiliad yn edrych a oedd y grŵp wedi derbyn cyfraniadau nad oedd hawl ganddyn nhw i’w derbyn.

Mewn ymateb, mae cadeirydd Leave.EU, y miliwnydd a’r cyn-gefnogwr Ukip Arron Banks, wedi bygwth camau cyfreithiol yn erbyn y comisiwn.

Dywedodd na fydd yn cydweithredu ag ymchwiliad y Comisiwn.