Undeb Unite (Chemical Engineer CC0 1.0)
Mae Len McCluskey wedi cael ei ail-ethol fel ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Unite mewn etholiad lle na wnaeth ond 12.2% o aelodau’r undeb gymryd rhan.

Daeth y canlyniad ar ôl mis o frwydr chwerw rhwng Len McCluskey a Gerard Coyne, a ddaeth yn ail iddo.

Yn ystod yr ymgyrch, roedd Gerard Coyne, a gafodd ei atal o’i swydd fel ysgrifennydd rhanbarthol Gorllewin Canolbarth Lloegr ddydd Iau, wedi bod yn cyhuddo Len McCluskey o fod yn rhy agos at arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

Mae’n honni bod holl beirianwaith yr undeb wedi cael ei ddefnyddio yn ei erbyn.

“Mae llawer o aelodau wedi dweud na chawson nhw mo’u papur pleidleisio o gwbl, neu iddo gyrraedd yn rhy hwyr,” meddai Gerard Coyne.

“Doedd hon ddim yn bleidlais o hyder o unrhyw fath, gyda chwymp yn y nifer a bleidleisiodd a phleidlais Len McCluskey wedi ei haneru o gymharu â’r tro blaen.

“Mae’n bryd i bawb a oedd yn ymwneud â’r etholiad ystyried y neges mae aelodau’r undeb yn ei hanfon at y mudiad.”