Safle glo brig Cwm Aman (llun: Celtic Energy)
Am y tro cyntaf ers cyfnod y chwyldro diwydiannol, mae Prydain wedi cynhyrchu trydan am ddiwrnod cyfan heb ddefnyddio’r un talp o lo.

Cafodd hyn ei gadarnhau gan y Grid Cenedlaethol neithiwr ar ddiwedd y cyfnod o 24 awr.

“Mae hyn yn drobwynt yn y ffordd mae ein system ynni yn newid,” meddai Cordi O’Hara o’r Grid Cenedlaethol.

“Mae Prydain yn manteisio ar ffynonellau amrywiol a hyblyg iawn o drydan, ac mae’r gymysgedd yn dal i newid.

“Er hyn, mae’n bwysig cofio bod glo yn dal i fod yn ffynhonnell bwysig o ynni wrth inni drawsnewid i system carbon isel.”

Mae’n debygol mai dyma’r diwrnod llawn cyntaf i Brydain fod heb drydan wedi’i gynhyrchu o lo ers i’r generadur trydan o lo agor ger yr Holborn Viaduct yn Llundain yn 1882.

Mae glo wedi lleihau yn ei bwysigrwydd dros y blynyddoedd, ac yn cyfrif am 9% o’r trydan a gynhyrchwyd yn 2016, o gymharu â 23% y flwyddyn gynt.

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i roi’r gorau i ddefnyddio glo yn gyfan gwbl erbyn 2025 fel rhan o’r ymdrechion i leihau allyriadau carbon ym Mhrydain.