Mae pâr yn wynebu cyfnod yn y carchar, wedi i lys eu cael yn euog o ladd eu babi.

Roedd Jeffrey Wiltshire, 52, a Rosalin Baker, 25, yn gaeth i gyffuriau pan fu farw Imani yn 16 wythnos oed ym mis Medi y llynedd. Maen nhw wedi ymddangos gerbron llys yr Old Bailey wedi’u cyhuddo o lofruddio, yr wythnos hon.

Roedd Rosalin Baker wedi rhoi’r bai ar ei chymar am y farwolaeth, gan ei gyhuddo o’i cham-drin ac o geisio ei beio hi. Roedd wedi ei gorfodi, meddai, i fynd ar fws gyda’i babi marw mewn sling.

Ond fe fu Jeffry Wiltshire yn honni mai “creu babis” oedd ei fai o, nid eu lladd nhw. Mae’n dweud ei fod yn dad i 25 o blant.

Fe fu’r rheithgor yn ystyried eu dyfarniad am dros 14 awr, cyn penderfynu bod y ddau’n ddieuog o lofruddio, ond yn euog o achosi neu ganiatau marwolaeth eu merch.