Mae 24 o arweinwyd ffydd yng ngwledydd Prydain wedi arwyddo llythyr agored yn galw am undod a dealltwriaeth yn dilyn yr ymosodiadau brawychol ledled y byd.

Mae’r arweinwyr yn cynrychioli Cristnogaeth, Hindwaeth, Islam, Iddewiaeth a Sicaeth, ymysg ffyddau eraill, ac mae’n galw am “oddefgarwch a pharch” yn wyneb yr ymosodiadau diweddar yn Stockholm, yr Aifft a San Steffan.

“Rydy ni… sy’n cynrychioli pob hil, ffydd a chefndir… ar yr adeg arbennig yma o’r flwyddyn i gymaint o grefyddau… yn tanlinellu eto ein hawydd i gydweithio yn erbyn y disgord, y diffyg ymddiriedaeth a’r ofn y mae brawychwyr yn ceisio ei greu,” meddai’r llythyr.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae grwpiau ffydd yn uno yn wneud y rheiny sy’n dymuno hau ofn ymysg trigolion y wlad hon (gwledydd Prydain). Mae’r ymosodiadau hyn yn ceisio ein rhannu, ond gyda’n gilkydd, mae’n rhaid i ni ddangos na wnawn nhw fyth lwyddo.

“Yn hytrah na chodi llais mewn gwylltineb, mi fyddwn ni’n parhau mewn ysbryd heddychlon a chadarn. Yn hytrach nag ymateb yn dreisgar, fe fyddwn ni’n dangos parch a chariad tuag at eraill.”

Fe gafodd y grwpiau ffydd eu gwahodd i gyfarfod yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, yn Scotland Yard y diwrnod wedi ymosodiad San Steffan, i drafod sut y mae mynd i’r afael ag eithafiaeth.