Mae gwyddonwyr wedi darganfod cyffuriau a allai leihau effeithiau afiechyd Alzheimer ac afiechydon tebyg eraill.

Mae’n ymddangos bod dau fath o feddyginiaeth sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio i drin iselder a chanser hefyd yn medru lleihau niwed i’r ymennydd gaiff ei achosi gan afiechyd Alzheimer.

Ar ôl cynnal arbrofion mewn labordy ar anifeiliaid â chlefydau ar eu hymennydd, fe ddarganfu gwyddonwyr bod y cyffuriau yn medru adfer cof y creaduriaid.

“Mae’r darganfyddiadau yma yn ein cyffroi ni,” meddai Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygiad Cymdeithas Alzheimer, Dr Doug Brown.

“Dim ond newydd ddechrau mae’r ymchwil, a dydyn ni ddim wedi arbrofi ar bobol eto,” meddai. “Ond, gan fod un o’r cyffuriau eisoes ar gael i drin iselder, byddwn yn gallu lleihau’r amser fyddai’n cymryd i drosglwyddo cyffur newydd o’r labordy i’r fferyllfa.”