Mae’r broblem o drais yng ngharchardai Cymru a Lloegr yn waeth nag y mae’n ymddangos, yn ôl adroddiad gan bwyllgor Ewropeaidd.

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Ewropeaidd er Atal Arteithio, gall fod maint y broblem yn waeth na’r disgwyl oherwydd nad yw pob achos o drais yn cael ei gofnodi.

Mae’r Pwyllgor yn dadlau bod trais mewn carchardai yn dechrau mynd “tu hwnt i reolaeth” ac mae problem gorlenwi carchardai’n cael ei ddisgrifio fel un “gronig”.

Y lefel uchaf erioed

Mae nifer yr achosion o ymosodiadau, hunan niweidio a hunanladdiad mewn carchardai wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed.

Rhwng Medi 2015 a Medi 2016 cafodd 25,049 o ymosodiadau eu cofnodi yng ngharchardai Cymru a Lloegr – y nifer uchaf ers dechrau cofnodi.

Mae cynllun i ddiwygio’r sustem garchardai eisoes wedi ei chyhoeddi gan weinidogion yn sgil cyfres o achosion o aflonyddwch mewn carchardai.