Y prynhawn yma, mae disgwyl i Aelodau Seneddol gefnogi galwad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, i gynnal etholiad cyffredinol ar Fehefin 8.

Yn ôl rheolau’r senedd yn San Steffan, mae’n rhaid i Theresa May sicrhau bod ganddi gefnogaeth dau draean o Aelodau Seneddol er mwyn medru cynnal y bleidlais.

Dywed ei bod wedi penderfynu cynnal y bleidlais yn gynharach na’r disgwyl oherwydd ei hawydd i fedru trafod dêl Brexit â “chefnogaeth pobol Prydain”.

“Yr hyn dw i’n gobeithio ddaw o’r etholiad yw cefnogaeth gan y cyhoedd i ddweud ein bod yn cytuno â’r cynllun ar gyfer Brexit, felly pan fydda’ i’n mynd i Ewrop, mi fydd gen i gefnogaeth pobol Prydain,” meddai.

Mae Theresa May eisoes wedi cael eu beirniadu gan fod llefarydd ar ran Stryd Downing wedi awgrymu na fydd hi’n cymryd rhan mewn dadleuon teledu cyn yr etholiad.

Ymateb y pleidiau

Mae Plaid Cymru, y blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesawu’r bleidlais gynnar, ond mae disgwyl i’r SNP i ymatal rhag pleidleisio.

Er nid yw’n glir os fydd Arweinydd yr Wrth Blaid, Jeremy Corbyn, yn gorfodi chwip ar bleidlais heddiw mae disgwyl i’r blaid ganiatáu i Aelodau Seneddol gael eu hail-ethol yn awtomatig mewn etholiad.