Tywysog Harry (Military Health CCA2.0)
Mae’r Tywysog Harry wedi cael ei ganmol am siarad yn agored am gael cymorth seiciatryddol i’w helpu i ddygymod â marwolaeth ei fam, y Dywysoges Diana, ugain mlynedd yn ôl.

Yn ôl yr elusen Time to Change, fe allai agweddau newid oherwydd datganiad y tywysog mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Daily Telegraph.

Fe ddywedodd ei fod wedi cael cymorth meddygol yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’ ar ôl bod am 20 mlynedd yn osgoi delio â marwolaeth ei fam mewn damwain car ym Mharis ym mis Awst 1997.

Roedd wedi treulio ugain mlynedd yn claddu ei ben yn y tywod ac wedi diodde’ dwy flynedd o “anhrefnm llwyr”, meddai wrth y papur.

Ymgyrch iechyd meddwl

Fe ddaw’r cyfweliad ynghanol ymgyrch gan elusen arall, Sefydliad Meddwl Shaw, i gael addysg iechyd meddwl ym mhob ysgol uwchradd.

Mae hefyd ychydig llai nag wythnos cyn Marathon Llundain sy’n codi arian eleni at glymblaid o elusennau iechyd meddwl, Heads Together.

“Fe fydd y ffaith fod y Tywysog Harry wedi rhannu ei brofiadau o faterion iechyd meddwl ac o gael cwnsela ar ôl colli ei fam yn helpu i newid agweddau, dramor yn ogystal â gartre’,” meddai cyfarwyddwraig Time to Change, Sue Baker.

Roedd yn freuddwyd ganddi, meddai, i gael aelodau o’r teulu brenhinol yn ymuno ag enwogion eraill i siarad am y maes.