Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig Justin Welby (Llun: PA)
Mae Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig Justin Welby wedi galw am “adferiad a gobaith” yn ei neges Pasg.
Dywedodd wrth ei gynulleidfa yn Eglwys Gadeiriol Caergaint y dylai pobol gofio’r neges “peidiwch â bod ofn” yn wyneb “poen ac anobaith, galar a marwolaeth”.
Dywedodd fod modd “byw, dal a deall popeth yn y byd drwy’r Atgyfodiad”.
Ond ychwanegodd fod y neges honno’n groes i realiti’r byd cyfoes, gan fod tipyn o ddrwg yn bod o hyd.
“Ry’n ni’n profi byd o boen ac anobaith, galar a marwolaeth.
“Ond y geiriau a ddywedodd yr Iesu ar y Dydd Pasg cyntaf un oedd ‘peidiwch â bod ofn’.
‘Y gair olaf’
Dywedodd fod drwg yn y byd yn cael cryn ddylanwad oherwydd “ofn y gallen nhw gael y gair olaf”.
“Dim ond un terfyn sydd, sef fod yr Iesu, yr un a gafodd ei groeshoelio yn fyw.
“Yn y teithiau anodd ry’n ni i gyd yn eu hwynebu, ym mhob ennyd o golled, rhaid i’r gymuned o dystion i’r Atgyfodiad ddod ynghyd a gyda chariad ac addfwynder, ddod ag adferiad a gobaith.”