Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Dim ond 45% o gefnogwyr y Blaid Lafur sy’n credu y byddai Jeremy Corbyn yn well na Theresa May pe bai e’n Brif Weinidog Prydain.
Dywedodd 47% fod Theresa May yn well nag y byddai Jeremy Corbyn, yn ôl pôl Opinium ar ran The Observer.
Ond dywedodd 28% nad oedden nhw am gael y naill na’r llall yn Brif Weinidog.
Yn ôl y pôl piniwn, mae’r Ceidwadwyr ar y blaen ym mhob maes ac eithrio’r Gwasanaeth Iechyd.
Cafodd 2,002 o oedolion eu holi ar-lein am eu barn rhwng Ebrill 11 a 13.
Colli seddi lleol
Daw’r pôl ar adeg pan fo’r Blaid Lafur wedi cael siom ar lefel leol, ar ôl colli sedd ar Gyngor Middlesbrough i’r Ceidwadwyr gyda gwyriad o 8%.
Mae’r Aelod Seneddol Llafur yn yr etholaeth, Tom Blenkinsop wedi beio Jeremy Corbyn am y canlyniad, gan fod cynifer o bobol wedi dweud ar lawr gwlad nad oedden nhw’n ei gefnogi.
Brexit
Ar fater Brexit, dywedodd 35% eu bod yn ymddiried yn y Ceidwadwyr i arwain y trafodaethau, tra bod 12% yn unig yn dweud eu bod yn ymddiried yn y Blaid Lafur.
Brawychiaeth
Er mai iechyd a Brexit yw blaenoriaethau’r pleidleiswyr, yn ôl y pôl, mae brawychiaeth wedi codi o’r pumed safle i’r trydydd ar y rhestr yn sgil yr ymosodiad diweddar yn Llundain.