Bydd angen i yrwyr ddangos mewn profion gyrru o hyn ymlaen eu bod nhw’n gallu defnyddio peiriant ’sat nav’ yn gywir.

Mae’n rhan o gyfres o newidiadau sydd wedi cael eu cyflwyno gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA).

Fel rhan o’r newidiadau, fe fydd rhaid i yrwyr yrru’n annibynnol am 20 munud, ac fe fydd symudiadau megis troi rownd y gornel yn cael eu disodli gan yrru i mewn i ofod parcio.

Yn ôl yr RAC, dyma’r newidiadau mwyaf sylweddol i’r prawf gyrru ers i’r elfennau theori gael eu cyflwyno yn 1996.

‘Achub bywydau’

Yn ôl Gweinidog Trafnidiaeth San Steffan, Andrew Jones, bydd y newidiadau’n achub bywydau.

“Mae gyda ni rai o’r ffyrdd mwyaf diogel yn y byd ond ry’n ni bob amser yn ceisio’u gwneud nhw’n fwy diogel.

“Bydd y newidiadau hyn sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw’n helpu i leihau nifer y bobol sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar ein ffyrdd ac yn rhoi’r sgiliau i yrwyr sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn defnyddio ein ffyrdd yn ddiogel.”

Bydd y prawf gyrru newydd yn cael ei gyflwyno ar Ragfyr 4.

Damweiniau

Damweiniau ar y ffordd sydd ar frig y rhestr o’r hyn sy’n achosi marwolaeth ymhlith pobol ifanc, gyda bron i chwarter o’r rheiny sy’n marw rhwng 15 a 19 oed.

Dywedodd prif weithredwr y DVSA, Gareth Llewellyn mai eu blaenoriaeth yw helpu pobol “drwy gydol eu bywydau o yrru’n ddiogel”.

“Mae sicrhau bod y prawf gyrru’n rhoi gwell asesiad o allu gyrrwr i yrru’n ddiogel ac yn annibynnol yn rhan o’n strategaeth i’ch helpu chi i aros yn ddiogel ar ffyrdd gwledydd Prydain.

“Mae’n hanfodol fod y prawf gyrru’n cael ei ddiweddaru gyda’r dechnoleg newydd mewn cerbydau a’r meysydd hynny lle mae gyrwyr yn wynebu’r risgiau mwyaf unwaith maen nhw wedi pasio’u prawf.”

Y ’sat nav’

Mae gan bron i hanner gyrwyr gwledydd Prydain beiriant ’sat nav’ ac yn ôl arolwg, mae tua 70% o yrwyr yn cefnogi’r alwad ar i yrwyr gael eu hyfforddi i’w defnyddio nhw’n ddiogel.

Fe fydd gwaredu’r angen i brofi eich bod yn gallu gwneud symudiadau arbennig yn rhoi mwy o amser i ganolbwyntio ar yrru mewn llefydd prysur, lle mae’r rhan fwyaf o ddamweiniau’n digwydd, meddai’r DVSA.

‘Croesawu’

Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys yr AA a’r RAC wedi croesawu’r newidiadau.

Dywedodd yr RAC fod y newidiadau’n golygu y bydd gyrwyr yn cael prawf “llawer mwy realistig”.

Ychwanegodd llywydd yr AA, Edmund King y bydd y newidiadau’n sicrhau “modurwyr gwell a mwy diogel”.