Protestwyr yn Little Plumpton, Sir Gaerhirfyn (Llun: PA)
Mae grŵp o bobol sy’n ymgyrchu yn erbyn datblygu safle ffracio yn Sir Gaerhirfryn wedi colli her gyfreithiol yn yr Uchel Lys.

Mae’r grŵp yn ymgyrchu yn erbyn rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygu safle ffracio yn Fylde gan ddweud nad yw’n “deg” nac yn “gyfreithiol.”

Ond wrth gyhoeddi ei benderfyniad yn yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Mercher fe wnaeth y barnwr ddiystyru eu gweithredoedd am adolygiad barnwrol.

Clywodd y llys fod caniatâd cynllunio gan y datblygwr Cuadrilla wedi’i wrthod gan Gyngor Sir Gaerhirfryn yn 2015.

Ond cafodd ei wyrdroi yn dilyn apêl ac ymchwiliad cynllunio, gan gael cymeradwyaeth Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth Prydain ym mis Hydref, sef Sajid Javid.