Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae gweinidogion tramor gwledydd yr G7 wedi gwrthod galwadau’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson i ehangu sancsiynau yn erbyn Syria.

Yn ystod y cyfarfod yn yr Eidal, dywedodd y grŵp bod angen cynnal ymchwiliad i’r ymosodiad arfau cemegol mewn tref yn nhalaith Idlib wythnos yn ôl, cyn i fesurau newydd gael eu mabwysiadu, meddai ffynhonnell o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ond mae’r ffynhonell wedi mynnu bod yr opsiwn o ehangu’r sancsiynau yn parhau ar y bwrdd trafod. Roedd y Llywodraeth wedi gobeithio targedu sancsiynau yn erbyn uwch-swyddogion milwrol gan fod yr Almaen a’r Eidal wedi gwrthod mabwysiadu mesurau ehangach yn erbyn Rwsia a Syria.

Yn gynharach, wrth i’r ddau drafod yr argyfwng yn Syria dros y ffôn, roedd Theresa May a Donald Trump wedi cytuno bod cyfle i geisio pwyso ar Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, i dorri ei gysylltiad â llywodraeth Bashar Assad.

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Rex Tillerson yn paratoi i ymweld â Rwsia i drafod ei chefnogaeth i Syria.

Dywedodd gweinidog tramor yr Eidal Angelino Alfano bod angen trafod gyda Rwsia “ac ni ddylwn ni wthio Rwsia i gornel.”

Nwy sarin

Yn y cyfamser, mae canlyniadau profion yn cadarnhau bod nwy sarin wedi cael ei ddefnyddio yn yr ymosodiad ar dref  Khan Sheikhoun wythnos ddiwethaf, meddai gweinidog iechyd Twrci.

Bu farw 87 o bobl, gan gynnwys plant, yn yr ymosodiad.