Yr Ysrifennydd Tramor Boris Johnson Llun: PA
Mae Boris Johnson wedi rhybuddio y gallai America gynnal rhagor o ymosodiadau ar Syria i geisio rhoi pwysau ar lywodraeth Bashar Assad.
Daeth sylwadau’r Ysgrifennydd Tramor cyn i uwch-gynhadledd gwledydd yr G7 gael ei gynnal yn yr Eidal ddydd Llun.
Yn ystod y trafodaethau mae disgwyl iddo ddweud nad oes gan yr Arlywydd Assad ddyfodol yn Syria, bod yn rhaid i Rwsia roi’r gorau i gefnogi ei lywodraeth a bod angen cynllun i adfer y wlad yn sgil y rhyfel cartref.
Roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi gorchymyn cyfres o ymosodiadau yn erbyn llywodraeth Syria wythnos ddiwethaf mewn ymateb i’r ymosodiad cemegol ar dref Khan Sheikhoun pan gafodd 87 o bobl, gan gynnwys plant, eu lladd.
Wrth ymateb i ymosodiad yr Unol Daleithiau ar Syria, dywedodd Boris Johnson wrth The Sun y “gallen nhw wneud hynny eto.”
“Allwn ni ddim colli’r foment yma. Mae’n bryd i (Arlywydd Rwsia) Putin wynebu’r gwirionedd am y teyrn mae’n ei gefnogi.”
Mae Vladimir Putin ac arweinydd Iran Hassan Rouhani wedi dweud bod ymyrraeth filwrol America yn “torri cyfraith ryngwladol”.